Living Made Easy – PRIVACY POLICY |
By “we” or “us”, we mean “Living Made Easy” or “LME”. By “you” we mean the individual who has accessed our services. We are a part of the Shaw Trust Limited, a registered charity under English charity number 287785 (Scottish charity number SCO39856) and company number 01744121, with a registered address of Black Country House, Rounds Green Road, Oldbury, England, B69 2DG.
We are registered with Information Commissioner's Office (“ICO”) and our registration number is Z5144790.
|
This Privacy Policy sets out how we, collect and use any information that you, the user, provides to us, when you:
Where we ask you to provide certain information by which you can be identified (i.e. Personal Data) after providing this information, then this information shall only be used in accordance with this Privacy Policy.
This website has not been designed for use by children. We do not knowingly collect data relating to children.
It is important that you read this Privacy Policy together with any Privacy Notice or Fair Processing Notice we may provide on specific occasions when we are collecting or processing personal data about you, to ensure you are fully aware of how and why we are using your data.
|
We are the data controller for the purposes of the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation (GDPR) which means that we decide how and why we use your personal data within our business.
If you have any questions relating to this Privacy Policy, including any requests to exercise your legal rights (as explained in section 14), please use the contact information set out below.
|
Full name: Living Made Easy as part of The Shaw Trust Limited
Postal Address: Living Made Easy c/o The Shaw Trust, Black Country House, Rounds Green Road, Oldbury B69 2DG.
Telephone Number: 0300 123 3084
Email: data.protectionmailbox@shaw-trust.org.uk.
|
You have the right to make a complaint at any time to the ICO, the UK supervisory authority for data protection issues (www.ico.org.uk). We would, however, appreciate the chance to deal with your concerns before you approach the ICO, so please contact us in the first instance.
|
This version was last updated on 30/03/2022 and historic versions of this Privacy Policy may be accessed upon request using the above contact information. Any changes to this Privacy Policy will be posted on this page and, where appropriate, notified to you accordingly. Please check back frequently to see any updates or changes to our Privacy Policy.
|
Using our website and accessing our services
We may collect, use, store and transfer different kinds of personal information about you if you use our website and access the services and information available via our website. This may include:
Aggregated Data
We collect, use and share Aggregated Data such as statistical or demographic data for any purpose. Aggregated Data may be derived from your personal data but is not considered personal data in law as this data does not directly or indirectly reveal your identity. For example, we may aggregate your Usage Data to calculate the percentage of users accessing a specific website feature. However, if we combine or connect Aggregated Data with your personal data so that it can directly or indirectly identify you, we will treat the combined data as personal data which will be used in accordance with this Privacy Policy.
Special Categories of Personal Data
We may collect data relating to your health to ensure we can tailor the information you are able to access via our services to suit your needs and circumstances. We will obtain your consent to obtain and store this data for the sole purpose of delivering our services.
We do not collect any other “special categories” of personal data about you nor do we collect any information about criminal convictions and offences.
If you do not provide Personal Data?
You are not required (by law or by any contract with us) to provide personal information to us via our website. We will only require you to provide personal information to us where it is necessary for us to provide you with a service at your request.
If you fail to provide personal data when requested, we may not be able to provide you with access to our services.
|
We have different methods of collecting data from and about you, including via:
You may provide us with your Identity Data, Contact Data and Financial Data by completing online forms or by corresponding directly with us via telephone. This includes personal data you provide when you:
As you interact with our website, we may automatically collect Technical Data about your equipment, browsing patterns and actions. This will be collated after your acceptance of ‘cookie’ and other similar technologies. Please refer to our Cookie Policy for further information.
We may receive personal data about you from other sources, including:
|
It is necessary for us to use your personal information in order to make our website, and all of its features, available to you. When you create an account (where required), and access our services, there is a contract between us (please see our Terms of Use) and we need to use your personal data in order to perform our side of that contract. Otherwise, we will only use your information in this way where we have a legitimate interest to do so. Using your information in this context is necessary so that we can:
Ordinarily, we do not rely on consent as a legal basis for processing data other than in relation to sending marketing communications to you via email or text message. We only send marketing communications to our business contacts and so if you are visiting our website or purchasing/accessing our goods and/or services as an individual, we will not send any marketing communications to you.
|
We have set out below, a description of all the ways we plan to use your personal data, and which of the legal bases we rely on to do so.
Note that we may process your personal data for more than one lawful ground depending on the specific purpose for which we are using your data. Please contact us if you need details about the specific legal ground on which we are relying to process your personal data where more than one ground has been set out in the table below.
Purpose/Activity
| Type of data
| Lawful basis for processing including basis of legitimate interest
|
To register you as a new user
| (a) Identity (b) Contact
| Contract Necessary for our legitimate interests (to develop our services) |
To provide you with access to our goods/services to you | (a) Identity (b) Contact (c) Financial (d) Marketing and Communications (e) Special Category
| Contract Necessary for our legitimate interests (to develop our services) Consent
|
(a) Notifying you about changes to our terms or privacy policy (b) Asking you to leave a review or take a satisfaction survey | (a) Identity (b) Contact (c) Profile (d) Marketing and Communications
| Necessary to comply with a legal obligation Necessary for our legitimate interests (to keep our records updated and to study how individuals use our services)
|
To administer and protect our business and this website (including troubleshooting, data analysis, testing, system maintenance, support, reporting and hosting of data)
| (a) Identity (b) Contact (c) Technical
| Necessary for our legitimate interests (for running our business, provision of administration and IT services, network security, to prevent fraud and in the context of a business reorganisation or group restructuring exercise) Necessary to comply with a legal obligation
|
To deliver relevant website content and advertisements to you and measure or understand the effectiveness of the advertising we serve to you
| (a) Identity (b) Contact (c) Profile (d) Usage (e) Marketing and Communications (f) Technical
| Necessary for our legitimate interests (to study how individuals use our services, to develop them, to grow our business and to inform our marketing strategy)
|
To use data analytics to improve our website, services, marketing and experiences
| (a) Technical (b) Usage
| Necessary for our legitimate interests (to define types of individuals who access our services, to keep our website updated and relevant, to develop and inform our marketing strategy)
|
To make suggestions and recommendations to you about goods or services that may be of interest to you
| (a) Identity (b) Contact (c) Technical (d) Usage (e) Profile
| Consent Necessary for our legitimate interests (to develop our services)
|
We will only use your personal information for the purposes for which we collected it as set out above, unless we reasonably consider that we need to use it for another reason and that reason is compatible with the original purpose. If we need to use your personal information for an unrelated purpose, we will notify you and we will explain the legal basis which allows us to do so.
Please note that we may process your personal information without your knowledge or consent, in compliance with the above rules, where this is required or permitted by law.
Marketing
We strive to provide you with choices regarding certain personal data uses, particularly around marketing and advertising. You can ask us to stop sending you marketing messages at any time by contacting us to amend your preferences, methods of contact and services you wish to hear about.
Promotional Offers
We may use your Identity, Contact, Technical, Usage and Profile Data to form a view on what we think you may want or need, or what may be of interest to you. This is how we decide which services and offers may be relevant for you (we call this marketing).
You will receive marketing communications from us if you have requested information from us or purchased goods or services from us and, in each case, you have not opted out of receiving that marketing.
Third-Party Marketing
We will not share your personal data with any company for marketing purposes.
Opting Out
You can opt-out of third-party marketing at any point by contacting us.
Cookies
A cookie is a small file of letters and numbers that is downloaded on to your computer when you visit a website. Cookies are used by many websites and can do a number of things such as remembering your preferences, recording what you have put in your shopping basket, and counting the volume of people accessing the website.
Upon entering our website, we will request you either accept or reject the use of cookies. Cookies assist us in providing a better service and website. The use of cookies allows the website to recognise your device and store information concerning your preferences or past actions.
You may create custom alerts when websites use or store cookies on your browser. If you wish to refuse cookies altogether, this can be done within your browser settings. For more information on browser controls please refer to our Cookie Policy.
|
We share the information that you provide to us with our staff so that we can provide you with access to our services.
We may also share your personal data with the parties set out below for the purposes set out in the table in paragraph 9 above. These companies will not use your information to contact you. Selected third parties will be subject to obligations to process your personal information in compliance with the same safeguards that we deploy.
We may need to disclose your information to any one of the following:
If you have any concerns about your personal information being shared, please contact us for more information.
There are certain exceptional circumstances in which we may disclose your information to other third parties. This would be where we believe that the disclosure is:
|
We may transfer your personal data outside of the United Kingdom as some of our external third parties are based outside the United Kingdom so their processing of your personal data will involve a transfer of data outside the United Kingdom.
Whenever we transfer your personal data out of the United Kingdom, we ensure a similar degree of protection is afforded to it by ensuring at least one of the following safeguards is implemented:
Please contact us if you want further information on the specific mechanism used by us when transferring your personal data out of the United Kingdom.
|
We are committed to ensuring your information is safe and secure. In order to prevent unauthorised access or disclosure, we have developed, implemented and maintained suitable physical, electronic and managerial procedures to safeguard and secure the information collected online. We wish for all individuals to be completely confident in using our services, therefore we regularly review our processes and procedures to protect your personal information from unauthorised access, use, accidental loss, destruction or disclosure.
We try to ensure that all information you provide to us is transferred securely via our website (always check for the padlock symbol and “https” in the URL bar). Unfortunately, the transmission of information via the internet is not completely secure. Although we will do our best to protect your personal data, we cannot guarantee the security of your data transmitted to our website; any transmission is at your own risk. Once we have received your information, we will use strict procedures and security features to try to prevent unauthorised access.
Where we have given you (or where you have chosen) a password which enables you to access certain parts of our website, you are responsible for keeping this password confidential. We ask you not to share a password with anyone.
|
How long will we hold your personal data?
We will only retain your personal data for as long as we need it for the purposes for which it was collected, as well as for any purposes necessary to satisfy any legal, accounting or reporting requirements.
If you create and maintain an account on our website but do not access any services, we will retain any information you provide to us at least for as long as you keep your account on our website, and afterwards for a period of 6 (six) years from the date of your last log in.
Where you contact us, but you do not have an account on our website (and we don’t have an ongoing relationship with you), we will retain your information for a period of 1 (one) month, so that we can recognise you if you contact us again in the near future.
If you would like us to delete your personal information before the end of these periods, please contact us.
|
In accordance with the current data protection legislation, you are entitled to a range of specific DATA SUBJECT RIGHTS that you may exercise under particular conditions, with a few exceptions.
Your right to ACCESS
| You have the right to ask us to confirm whether or not we hold any of your personal information. If we do, you have the right to have a copy of your information and to be informed of the following:
In order to maintain the security of your information, we will have to verify your identity before we provide you with a copy of the information we hold. The first copy of your information that you request from us will be provided free of charge, if you require further copies we may charge an administrative fee to cover our costs.
|
Your right to RECTIFICATION
| You have the right to have inaccurate personal data rectified. You may also be able to have incomplete personal data completed – although this will depend on the purposes for the processing. This may involve providing a supplementary statement to the incomplete data.
|
Your right to ERASURE
| Under certain circumstances you have the have the right to have personal data erased. Also known as ‘the right to be forgotten’. This could be if:
In those situations, you have the right to have your personal data deleted. If you believe that one of these situations applies to you, please contact us
|
Your right to RESTRICT PROCESSING
| Under certain circumstances you have the right to request the restriction or suppression of your personal data. Restriction of processing means we are permitted to store your personal data, we are unable to use it. This right is available where:
|
Your right to DATA PORTABILITY
| You have the right to obtain a copy of your personal data for your own purposes. This allows you to move, copy or transfer your personal data more easily from one IT environment to another, safely and securely, without affecting the usability of the data.
|
Your right to OBJECT
| We aim to always ensure that your rights and information are properly protected. If you believe that the way we are using your data is not justified due to its impact on you or your rights, you have the right to object. Unless we have a compelling reason to continue, we must stop using your personal data for these purposes.
You can tell us at any time that you would prefer that we do not use your information for direct marketing purposes. If you would not like to receive any direct marketing from us, please contact us or use the links provided in any of our marketing communications.
|
Your right to be INFORMED
| You have the right to be informed about the collection and use of your personal data. Your right to be informed forms part of this policy, and provides the purposes for processing your data, our retention periods and who it will be shared with.
|
Your rights in relation to AUTOMATED DECISION-MAKING AND PROFILING | Any automated decision-making or profiling we undertake is solely for the purpose of tailoring the information which we provide to you. We will not use automated decision-making or profiling to make decisions which will have a legal effect upon you or otherwise significantly affect you, and you have the right not to be subject to such decisions. If you have any concerns or questions about this right, please contact us.
|
DLF – POLISI PREIFATRWYDD |
Pan ddywedwn "rydym" neu "ni", golygwn "y Sefydliad Byw i'r Anabl" neu "DLF". Pan ddywedwn "chi", golygwn yr unigolyn sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau. Rydym yn rhan o Shaw Trust Limited, sy'n elusen gofrestredig yn Lloegr rhif 287785 (rhif elusen yr Alban SCO39856) a rhif cwmni 01744121, a'r cyfeiriad cofrestredig yw Black Country House, Rounds Green Road, Oldbury, Lloegr, B69 2DG.
Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ("ICO"), a'n rhif cofrestru yw Z5144790.
|
Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn casglu ac yn defnyddio unrhyw wybodaeth rydych chi, y defnyddiwr, yn ei darparu i ni, pan fyddwch yn:
Pan fyddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod drwyddi (h.y. Data Personol), ar ôl darparu'r wybodaeth hon, caiff y wybodaeth hon ei defnyddio yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn yn unig.
Nid yw'r wefan hon wedi'i chynllunio i'w defnyddio gan blant. Nid ydym yn fwriadol yn casglu data sy'n ymwneud â phlant.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen y Polisi Preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw Hysbysiad Preifatrwydd neu Hysbysiad Prosesu Teg a ddarparwn ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu neu'n prosesu data personol amdanoch, er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio'ch data.
|
Ni yw'r rheolydd data at ddibenion Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), sy'n golygu ein bod yn penderfynu sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol o fewn ein busnes.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol (fel yr eglurir yn adran 14), defnyddiwch y wybodaeth gyswllt a nodir isod.
|
Enw llawr: Disabled Living Foundation, fel rhan o Shaw Trust Limited
Cyfeiriad post: DLF d/o The Shaw Trust, Black Country House, Rounds Green Road, Oldbury B69 2DG.
Rhif ffôn: 0300 123 3084
E-bost: data.protectionmailbox@shaw-trust.org.uk.
|
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i'r ICO, sef awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data.(www.ico.org.uk). Byddem yn gwerthfawrogi, fodd bynnag, y cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi gysylltu â'r ICO, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.
|
Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 30/03/2022, a gellir cyrchu fersiynau hanesyddol o'r Polisi Preifatrwydd hwn ar gais gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt uchod. Caiff unrhyw newidiadau yn y Polisi Preifatrwydd hwn eu postio ar y dudalen hon, a lle bo'n briodol, cewch eich hysbysu ynghylch hynny. Dewch yn ôl yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau yn ein Polisi Preifatrwydd.
|
Defnyddio ein gwefan a chyrchu ein gwasanaethau
Mae'n bosib y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o wybodaeth bersonol amdanoch os byddwch yn defnyddio ein gwefan ac yn cyrchu'r gwasanaethau a'r wybodaeth sydd ar gael drwy ein gwefan. Gallai hyn gynnwys:
Data Cyfunol
Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu Data Cyfunol megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall Data Cyfunol ddeillio o'ch data personol, ond ni ystyrir yn ddata personol yn ôl y gyfraith, am nad yw'r data yn datgelu pwy ydych chi yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyfuno eich Data Defnydd i gyfrifo'r ganran o ddefnyddwyr sy'n cyrchu nodwedd benodol ar ein gwefan. Os byddwn yn cyfuno neu'n cysylltu Data Cyfunol â'ch data personol fel y gall eich adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fodd bynnag, byddwn yn trin y data cyfunedig fel data personol, ac fe'u defnyddir yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn.
Categorïau Arbennig Data Personol
Mae'n bosib y byddwn yn casglu data sy'n ymwneud â'ch iechyd i sicrhau y gallwn deilwra'r wybodaeth y gallwch gael mynediad ati drwy ein gwasanaethau i weddu i'ch anghenion a'ch amgylchiadau. Byddwn yn cael eich cydsyniad i gael a storio'r data hyn at ddiben darparu ein gwasanaethau yn unig.
Nid ydym yn casglu unrhyw "gategorïau arbennig" eraill o ddata personol amdanoch, ac nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am droseddau ac euogfarnau troseddol.
Os nad ydych yn darparu Data Personol
Nid yw'n ofynnol i chi (yn ôl y gyfraith nac o dan unrhyw gontract gyda ni) ddarparu gwybodaeth bersonol i ni drwy ein gwefan. Byddwn ond yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ni pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn i ni ddarparu gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano.
Os byddwch yn methu darparu data personol pan ofynnir amdanynt, efallai na fyddwn yn gallu rhoi mynediad i chi at ein gwasanaethau.
|
Mae gennym ddulliau gwahanol o gasglu data gennych ac amdanoch, gan gynnwys:
Gallwch roi eich Data Hunaniaeth, Data Cyswllt a Data Ariannol i ni drwy lenwi ffurflenni ar-lein neu drwy ohebu'n uniongyrchol â ni dros y ffôn. Mae hyn yn cynnwys data personol a ddarperir gennych pan fyddwch yn:
Wrth i chi ryngweithio â'n gwefan, efallai y byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich offer, patrymau pori a gweithredoedd. Caiff y data eu coladu ar ôl i chi dderbyn 'cwcis' a thechnolegau tebyg eraill. Cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.
Mae'n bosib y byddwn yn cael data personol amdanoch o ffynonellau eraill, gan gynnwys:
|
Mae'n angenrheidiol i ni ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn sicrhau bod ein gwefan, a'i holl nodweddion, ar gael i chi. Pan fyddwch yn creu cyfrif (lle bo angen) ac yn cyrchu ein gwasanaethau, mae contract rhyngom (gweler ein Telerau Defnyddio), ac mae angen i ni ddefnyddio eich data personol er mwyn cyflawni ein hochr ni o'r contract hwnnw. Fel arall, byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth yn y modd hwn lle mae budd dilys i ni wneud hynny. Mae defnyddio eich gwybodaeth yn y cyd-destun hwn yn angenrheidiol er mwyn i ni allu:
Fel arfer, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data ac eithrio mewn perthynas ag anfon cyfathrebiadau marchnata atoch drwy e-bost neu neges destun. Dim ond at ein cysylltiadau busnes rydym yn anfon cyfathrebiadau marchnata, felly os ydych yn ymweld â'n gwefan neu'n prynu/defnyddio ein nwyddau a/neu wasanaethau fel unigolyn, ni fyddwn yn anfon unrhyw gyfathrebiadau marchnata atoch.
|
Rydym wedi nodi disgrifiad isod o'r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio'ch data personol, a pha rai o'r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny.
Sylwer y gallwn brosesu eich data personol am fwy nag un sail gyfreithlon, yn dibynnu ar y diben penodol rydym yn defnyddio'ch data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni os oes angen manylion arnoch am y sail gyfreithiol benodol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un sail wedi'i nodi yn y tabl isod.
Diben/Gweithgarwch
| Math o ddata
| Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu, gan gynnwys sail budd dilys
|
I'ch cofrestru fel defnyddiwr newydd
| (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt
| Contract Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein gwasanaethau) |
Er mwyn rhoi mynediad i chi at ein nwyddau/gwasanaethau i chi | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Ariannol (d) Marchnata a Chyfathrebu (e) Categori Arbennig
| Contract Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein gwasanaethau) Cydsyniad
|
(a) Eich hysbysu ynghylch newidiadau yn ein telerau neu bolisi preifatrwydd (b) Gofyn i chi adael adolygiad neu wneud arolwg boddhad | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Proffil (d) Marchnata a Chyfathrebu
| Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiweddaru ein cofnodion ac astudio sut mae unigolion yn defnyddio ein gwasanaethau)
|
Gweinyddu a diogelu ein busnes a'r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cymorth, adrodd, a chynnal data)
| (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Technegol
| Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddol a TG, diogelwch rhwydwaith, atal twyll, ac yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
|
Cyflwyno cynnwys gwefan a hysbysebion perthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion a ddangoswn i chi
| (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Proffil (d) Defnydd (e) Marchnata a Chyfathrebu (f) Technegol
| Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae unigolion yn defnyddio ein gwasanaethau, i'w datblygu, i dyfu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata)
|
Defnyddio dadansoddeg data i wella ein gwefan, gwasanaethau, marchnata a phrofiadau
| (a) Technegol (b) Defnydd
| Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o unigolion sy'n defnyddio ein gwasanaethau, i gadw ein gwefan yn gyfredol ac yn berthnasol, i ddatblygu a llywio ein strategaeth farchnata)
|
I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi
| (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Technegol (d) Defnydd (e) Proffil
| Cydsyniad Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein gwasanaethau)
|
Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion y gwnaethom ei chasglu ar eu cyfer fel y nodir uchod, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r diben gwreiddiol. Os bydd angen i ni ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddiben nad yw'n gysylltiedig, byddwn yn rhoi gwybod i chi a byddwn yn esbonio'r sail gyfreithiol sy'n caniatáu i ni wneud hynny.
Sylwer y gallwn brosesu eich gwybodaeth bersonol heb yn wybod i chi neu heb eich cydsyniad, yn unol â'r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith.
Marchnata
Rydym yn ymdrechu i roi dewisiadau i chi o ran defnydd o ddata personol penodol, yn enwedig o ran marchnata a hysbysebu. Gallwch ofyn i ni roi'r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni i newid eich dewisiadau, dulliau cysylltu a gwasanaethau yr hoffech glywed amdanynt.
Cynigion Hyrwyddol
Efallai y byddwn yn defnyddio eich Data Hunaniaeth, Cyswllt, Technegol, Defnydd a Phroffil i ffurfio barn ar yr hyn rydym yn meddwl y gallech fod ei eisiau neu ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut byddwn yn penderfynu pa wasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi (rydym yn galw hyn yn marchnata).
Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym os ydych wedi gofyn am wybodaeth gennym neu wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gennym a, ym mhob achos, nad ydych wedi optio allan o dderbyn y marchnata hyn.
Marchnata Trydydd Parti
Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw gwmni at ddibenion marchnata.
Optio Allan
Gallwch optio allan o farchnata trydydd parti ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni.
Cwcis
Ffeil fach o lythrennau a rhifau yw cwci, sy'n cael ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Defnyddir cwcis gan lawer o wefannau, a gallant wneud nifer o bethau megis cofio eich dewisiadau, cofnodi'r hyn rydych wedi'i roi yn eich basged siopa, a chyfri'r nifer o bobl sy'n defnyddio'r wefan.
Wrth fynd i'n gwefan, byddwn yn gofyn i chi naill ai dderbyn neu wrthod y defnydd o gwcis. Mae cwcis yn ein cynorthwyo i ddarparu gwell gwasanaeth a gwefan. Mae defnyddio cwcis yn caniatáu i'r wefan adnabod eich dyfais a storio gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch dewisiadau neu'ch gweithredoedd yn y gorffennol.
Gallwch greu rhybuddion personol pan fydd gwefannau'n defnyddio neu'n storio cwcis ar eich porwr. Os ydych am wrthod cwcis yn gyfan gwbl, gellir gwneud hyn o fewn gosodiadau eich porwr. Am ragor o wybodaeth am reolaethau porwr, darllenwch ein Polisi Cwcis.
|
Rydym yn rhannu'r wybodaeth a ddarparwch i ni gyda'n staff er mwyn i ni allu rhoi mynediad i chi at ein gwasanaethau.
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data personol gyda'r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 9 uchod. Ni fydd y cwmnïau hyn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi. Bydd trydydd partïon dethol yn ddarostyngedig i rwymedigaethau i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r un mesurau diogelu yr ydym ni'n eu defnyddio.
Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth i unrhyw un o'r canlynol:
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch rhannu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae rhai amgylchiadau eithriadol lle gallwn ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon eraill. Byddai hyn yn digwydd lle credwn fod y datgeliad yn:
|
Mae'n bosib y byddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r Deyrnas Unedig am fod rhai o'n trydydd partïon allanol wedi'u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, felly bydd prosesu eich data personol ganddynt yn golygu trosglwyddo data y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Pryd bynnag y byddwn yn trosglwyddo eich data personol allan o'r Deyrnas Unedig, rydym yn sicrhau bod lefel debyg o ddiogelwch iddynt drwy sicrhau bod o leiaf un o'r mesurau diogelu canlynol yn cael ei roi ar waith:
Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am y mecanwaith penodol a ddefnyddir gennym wrth drosglwyddo eich data personol allan o'r Deyrnas Unedig.
|
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, rydym wedi datblygu, gweithredu a chynnal gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas i warchod a diogelu'r wybodaeth a gesglir ar-lein. Dymunwn i bob unigolyn fod yn gwbl hyderus wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, felly rydym yn adolygu ein prosesau a'n gweithdrefnau'n rheolaidd i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd, colled ddamweiniol, dinistr neu ddatgeliad heb awdurdod.
Rydym yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel drwy ein gwefan (gwiriwch bob amser am y symbol clo clap a "https" yn y bar URL). Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n gwefan; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio nodweddion diogelwch a gweithdrefnau llym i geisio atal mynediad anawdurdodedig.
Lle rydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu lle rydych wedi dewis cyfrinair) sy'n eich galluogi i gael mynediad i rannau penodol o'n gwefan, chi sy'n gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair ag unrhyw un.
|
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol?
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd eu hangen arnom at y dibenion y'u casglwyd, yn ogystal ag at unrhyw ddibenion sy'n angenrheidiol i fodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.
Os byddwch yn creu ac yn cynnal cyfrif ar ein gwefan, ond nad ydych yn cyrchu unrhyw wasanaethau, byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a roddwch i ni o leiaf cyhyd ag y byddwch yn cadw eich cyfrif ar ein gwefan, ac wedi hynny am gyfnod o 6 (chwe) blynedd o ddyddiad eich mewngofnodi diwethaf.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, ond nad oes gennych gyfrif ar ein gwefan (ac nid oes gennym berthynas barhaus â chi), byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod o 1 (un) mis, fel y gallwn eich adnabod os byddwch yn cysylltu â ni eto yn y dyfodol agos.
Os hoffech i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol cyn diwedd y cyfnodau hyn, cysylltwch â ni.
|
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, mae gennych hawl i ystod o HAWLIAU TESTUN DATA penodol y gallwch eu harfer o dan amodau penodol, gydag ychydig eithriadau.
Eich hawl i FYNEDIAD
| Mae gennych hawl i ofyn i ni gadarnhau a ydym yn cadw unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol ai peidio. Os ydym yn gwneud hynny, mae gennych hawl i gael copi o'ch gwybodaeth ac i gael gwybod am y canlynol:
Er mwyn cynnal diogelwch eich gwybodaeth, bydd rhaid i ni wirio pwy ydych cyn i ni ddarparu copi o'r wybodaeth sydd gennym. Bydd y copi cyntaf o'ch gwybodaeth yr ydych yn gofyn amdano gennym yn cael ei ddarparu am ddim, os bydd angen rhagor o gopïau arnoch, efallai y byddwn yn codi ffi weinyddol i dalu ein costau.
|
Eich hawl i GYWIRO
| Mae gennych hawl i gywiro data personol anghywir. Efallai y gallech hefyd gael data personol anghyflawn wedi'u cwblhau – er y bydd hyn yn dibynnu ar y dibenion ar gyfer prosesu. Gall hyn olygu darparu datganiad atodol i'r data anghyflawn.
|
Eich hawl i DDILEU
| O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl i ddileu data personol. Gelwir hyn hefyd yn 'hawl i gael eich anghofio'. Gallai hyn fod os:
Yn y sefyllfaoedd hynny, mae gennych yr hawl i gael dileu eich data personol. Os credwch fod un o'r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni
|
Eich hawl i GYFYNGIADAU PROSESU
| O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl i ofyn am gyfyngu neu atal eich data personol. Mae cyfyngu ar brosesu yn golygu bod gennym yr hawl i storio eich data personol, ond ni allwn ei ddefnyddio. Mae'r hawl hon ar gael lle:
|
Eich hawl i GLUDADWYEDD DATA
| Mae gennych hawl i gael copi o'ch data personol at eich dibenion eich hun. Mae hyn yn eich galluogi i symud, copïo neu drosglwyddo eich data personol yn haws o un amgylchedd TG i un arall, yn ddiogel, heb effeithio ar ddefnyddioldeb y data.
|
Eich hawl i WRTHWYNEBU
| Ein nod yw sicrhau bob amser bod eich hawliau a'ch gwybodaeth yn cael eu diogelu'n briodol. Os credwch nad oes modd cyfiawnhau'r ffordd rydym yn defnyddio'ch data oherwydd ei effaith arnoch chi neu eich hawliau, mae gennych hawl i wrthwynebu. Oni bai bod gennym reswm anorchfygol dros barhau, rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio'ch data personol at y dibenion hyn.
Gallwch ddweud wrthym unrhyw bryd y byddai'n well gennych i ni beidio â defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os na hoffech dderbyn unrhyw farchnata uniongyrchol gennym, cysylltwch â ni neu defnyddiwch y dolenni a ddarperir yn unrhyw un o'n cyfathrebiadau marchnata.
|
Eich hawl i gael eich HYSBYSU
| Mae gennych hawl i gael eich hysbysu ynghylch casglu a defnyddio eich data personol. Mae eich hawl i gael eich hysbysu yn rhan o'r polisi hwn, ac yn darparu'r dibenion ar gyfer prosesu eich data, ein cyfnodau cadw, a chyda phwy y caiff y data eu rhannu â nhw.
|
Eich hawliau mewn perthynas â GWNEUD PENDERFYNIADAU A PHROFFILIO YN AWTOMATAIDD | Mae unrhyw broses proffilio neu wneud penderfyniadau awtomataidd a wnawn at ddiben teilwra'r wybodaeth a ddarparwn i chi yn unig. Ni fyddwn yn defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau na phroffilio awtomataidd i wneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith gyfreithiol arnoch chi neu a fydd yn effeithio'n sylweddol arnoch fel arall, ac mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau o'r fath. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am yr hawl hon, cysylltwch â ni.
|